a month agoRelatable - I always wanted Monstera Albo and they were insanely expensive! I bought one last year from someone selling a cutting for £10 and it's a beaut 😍😍
a month agoDwi ‘di bod yn aros am amser hir iawn am yr un yma 🥹🌿 Os oeddech chi o gwmpas yn ystod y cyfnod pan oedd poblogrwydd planhigion tŷ yn ffrwydro yn 2020, byddwch chi’n cofio pa mor ddrud oedd rhai planhigion tŷ – yn enwedig y rhai amryliw (variegated) oedd mor boblogaidd – roedd rhai yn costio miloedd! 🤢 Roedd Alocasia Frydek deuliw yn bendant ar y ‘wishlist’ i mi bryd hynny, ond doeddwn i ddim yn gallu cyfiawnhau'r gost uchel o gwbl 🫠 Chwe mlynedd yn ddiweddarach ac maen nhw wedi dod yn llawer mwy rhesymol o'r diwedd; des i o hyd i'r un yma yn fy nghanolfan arddio leol am £16.99 💃🏻🪴 Wrth gwrs, roedd rhaid iddo ddod adref efo fi 🤓 A rwan gallai ei roi wrth ymyl fy Alocasia Frydek gwreiddiol, sydd mor hyfryd ag erioed; anrheg sypreis gan fy ngŵr oedd hwnnw pan ostyngodd y prisiau ychydig flynyddoedd yn ôl 🔥 Mae'n ddiddorol gweld sut mae'r farchnad planhigion tŷ wedi newid yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Gall planhigion a oedd unwaith yn yn amhosib i'w meddiannu ymddangos yn sydyn mewn canolfan arddio leol am bris rhesymol. Wnaethoch chi ddechrau casglu planhigion tŷ yn ystod y cyfnod clo pan oedd eu poblogrwydd ar ei uchaf? Ac ydych chi'n cofio'r prisiau afresymol? 👀😂
