Instagram story viewer> @newyddions4c> Post
8 days ago
Co Creator: ffermio
🥛Mae pryderon wedi'u codi am effaith bosibl dod â chynllun cymhorthdal llaeth ysgol yng Nghymru i ben, ar blant a'r diwydiant llaeth.

Mae undebau amaethyddol wedi galw am barhau â'r ddarpariaeth, tra bod Cymdeithas y Feganiaid yn cefnogi dod â'r cymhorthdal ar gyfer llaeth buwch i ben.

Daw'r sylwadau wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi ymgynghoriad 10 wythnos ar ddyfodol y Cynllun Cymhorthdal Llaeth Ysgol, sydd wedi costio tua £3 miliwn y flwyddyn yn y gorffennol.

Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn darparu llaeth am ddim i blant o'r Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 2, a llaeth â chymhorthdal i ddisgyblion Blynyddoedd 3 i 6.

Ond bydd yr Asiantaeth Taliadau Gwledig, sy'n gweinyddu'r cynllun ar ran Llywodraeth Cymru, yn rhoi'r gorau i wneud hynny ddiwedd mis Mawrth 2027.

Mae'r Llywodraeth felly'n ystyried sefydlu cynllun newydd yng Nghymru neu ddod â'r ddarpariaeth bresennol i ben.

Yn ôl asesiad effaith y Llywodraeth, roedd 81,374 o blant yn derbyn llaeth ar ddiwrnod cyfrifiad ysgolion 2024/25, sef tua 30% o'r rhai oedd yn gymwys.

Mwy ar ap a gwefan Newyddion S4C.
0
Posted On: October 28th 2026, 08:08 am
Tagged Users:

More posts

back to up