Instagram story viewer> @_saragib> Posts
1.5K
followers
2561
following
Gwnïo, garddio, gloddesta. In no particular order.
Comms @gwasanaethcerddcymru
Cadeirydd @aradgoch
POSTS STORIES REELS TAGGED
Cartref newydd y clwc-clwcs. Hen house - done.

Tair awr, a sawl gwydraid o win yn ddiweddarach, ac mae eu palas newydd yn barod. A few more days in their temporary quarters and they’ll go out. Bought a recycled plastic hut this time around, to try and prevent red mite. Ac ma nhw’n hen barod i fynd mewn - edrychon ni allan o’r ffenestr bore ‘ma a gweld *John tu fas i’r shed, ac wedi hedfan allan o’r cwt dros dro. O’dd un arall ar ben y pentwr pren. Wpadeis.

*Dy ni dal ddim yn siwr beth fydd John. Falle mai Joan fydd e/hi maes o law! by @_saragib
1
19 days ago
Download
Haf 2026. Mi wibiodd. 

1. Dêts traeth di-ri
2. Clwc-clwcs
3. Dathlu’r deg yn Steddfod Llantŵd
4. Dathlu bob tro yng ngwmni @merchedsoar ❤️
5. Criw byw a bendigedig ein stondin (a braf cwrdd â Paul Mealor)
6. Diffyg ar yr haul. Jnr ddim yn impressed
7. TGAU’s. Done ✅
8. Ceisio cwblhau llwybr arfordir Ceredigion….
9. … oedd yn ormod i rai
10. Consti i Clarach, a’r arcêd

Heb anghofio’r Sioe Fawr, sioe Calon @y_cwmni , cneifio cyflym @cffitalybontyfc a llawer, llawer mwy. by @_saragib
1
2 months ago
Download
‘Aber Mon Amour’. Fo a hi, mas-mas. O gicio’r bar i’r amryw fariau ar hyd y prom godidog. Ac ymweliad â’r bar newydd @gwinymor Caffaeliad i’r dre, heb os. Nunlle gwell i fod na’r riviera ‘ma pan fo’r haul yn gwenu. by @_saragib
6
3 months ago
Download
Golygfeydd hudolus yng Nghastell Aberystwyth heno. Lluniau, animeiddiadau a brawddegau yn cael eu huwchdaflunio ar furlun y twr i godi ymwybyddiaeth o’r dref fel Dinas Llên UNESCO. Diolch @bigwavetonfawr am drefnu, ac i’r artistiaid am ein swyno fin nos. by @_saragib
1
7 months ago
Download
Crikey Moses, Aurora. Pert iawn. taken in Penrhyn-coch by @_saragib
1
9 months ago
Download
Ydy, mae hi yr adeg yna o’r flwyddyn eto. 

These from @hobbycrafthq were so worth the investment - and painting time - a few years ago. And so sustainable too. With a near-adult, teen and child in the house they can be filled with whatever you think they’d like, time and time again. This year - Chocolate coins for the 9yr old, sweets and nice toiletries and make up for the older girls. #nadolig #christmascraft #sustainablehomedecor by @_saragib
3
a year ago
Download
Dim ond nawr dwi’n medru rhoi mewn geiriau sut brofiad oedd hi i fod yn rhan o @gwylcerdddantaber ddydd Sadwrn. Roedd yn benllanw misoedd o waith i’r Pwyllgor Gwaith, ac ry’ ni mor ddiolchgar i bawb a ddaeth i’n cefnogi ac i wirfoddoli. Rhaid rhoi ‘showt owt’ i @rocetarwel a Helen Medi am lywio’r llong mor gadarn a gyda chymaint o egni. Diolch i bawb a gyfranodd eitemau i’n arddangosfa gwisgoedd. Diolch i Eleri Roberts, @ffibow @aradgoch a @stiwdiodots am y cydweithio hapus.

O arwain ar y llwyfan ochr yn ochr â @lowristeff a @nestjenkins (shout out hiwj i Hywel a Jac am ein cadw mewn trefn - lejs), i gystadlu gyda Merched Soar (dwli ar bob yn wan jac ohonoch chi, lêdis, ond yn enwedig @carysmai - ti’n ⭐️) ac yna gyda chôr Cerdd Dant newydd sbon, Lleisiau Gwyddno, roedd fy nghwpan yn llawn ddiwedd nos Sadwrn - a fy nhraed yn brifo 😊

Ond mae’r ganmoliaeth fwyaf yn mynd i @cerdd_dant sydd wrthi’n ddiwyd yn sicrhau bod ‘na lwyfan i’n traddodiadau ni bob blwyddyn, ar draws Cymru gyfan. Da chi - rhowch groeso i’r ŵyl Cerdd Dant yn eich ardal chi. Gwahoddwch nhw. Ydy, mae e’n lot o waith, ond mae’n rhoi llawer o fwynhad a phleser hefyd. by @_saragib
1
a year ago
Download
Mae’r arddangosfa gwisgoedd Cerdd Dant wedi symud… i’w hafan ola ❤️ by @_saragib
2
a year ago
Download
Chi’n cofio’r apêl am wisgoedd Cerdd Dant? Wel, ma nhw bellach ar ddangos yng Nghanolfan @aradgoch yn Aberystwyth. Byddan nhw yno i’w gweld rhwng nawr a Gŵyl Cerdd Dant Aberystwyth ar Dachwedd 8fed. Diolch i griw Arad Goch am eu gwaith o osod y perlau yn y galeri llawr gwaelod. Ewch draw am bip! Wondering what these vintage outfits are in the window of Arad Goch’s centre on Bath Street, Aberystwyth? These are outfits worn by choirs and individuals who have competed in the annual Cerdd Dant national festival over the years. And it’s coming to Aber on November 8th 2025. Come to Arad Goch to learn more about the art of singing Cerdd Dant, and to enjoy these beauties! #welshculture #cerdddant #aberystwyth by @_saragib
0
a year ago
Download
OG’s. Caru’r rhain. Ffrindiau bore oes ❤️ Ddim yn ei gweld hanner digon aml, felly mae’n braf cael rheswm i ddod at ein gilydd i ddathlu Penblwydd @godfreyn 🎂 taken in Cicchetti by @_saragib
0
a year ago
Download
Shwt bod hi’n fis Medi fory, bois?! Mae’r chwe wythnos diwethaf wedi gwibio heibio. O’r Sioe Fawr i’r Steddfod. Penblwydd y bych, Stiwdio BBC Bangor a Nantlle.  Pumlumon a Llwybr yr Arfordir. Carafanio, sgrymio, a chreu atgofion gyda ffrindiau. Sa i’n credu bo fi’n barod i eistedd tu ôl i ddesg mewn 12 awr 💻

Crymbl afal a mafon o ardd @angharad.miles yn gysur heno cyn clwydo, cysgu, a chyfarch diwrnod cynta blwyddyn academaidd arall. by @_saragib
3
a year ago
Download
Dwi’n dal i wenu. Am brofiad i bobl ifanc Ceredigion yn @castellaberteifi heno. Cyd-berfformio gyda @welshofthewestend Ma hwn yn haeddu lle ar y grid. Diolch i holl diwtoriaid Gwasanaeth Cerdd Ceredigion - ac yn enwedig @danedwardsphillips 

Mam, ac aelod o dîm @gwasanaethcerddcymru balch iawn heno. by @_saragib
2
a year ago
Download

Download All

Save the photos and videos currently loaded on this page.

0Photos
0Videos
Ready to download 0 / 0

Keep this tab open until your download is ready.

back to up