Posted On: October 2nd 2026, 09:46 am
Mae’r bariton o Fôn, Steffan Lloyd Owen wedi dweud ei fod eisiau “helpu pobl eraill sy’n delio â galar”, a hynny ddegawd ers colli ei fam, Susan.
Bu farw ei fam yn dilyn damwain ffordd yn 2016, ac yn siarad am ei cholli am y tro cyntaf ar ei delerau ei hun ers hynny, mae’n gobeithio y gall ei brofiad fod o fudd i eraill.
Daw ar ôl iddo rannu fideo ar gyfryngau cymdeithasol yn pwysleisio “pwysigrwydd siarad am y person sydd wedi marw” a chofio’r amseroedd da, gan ddweud mai’r “dyddiau gorau yw’r rhai pan dwi’n siarad am Mam a chofio pa mor arbennig oedd hi”.
Wrth siarad â Cymru Fyw, anogodd bobl i deimlo eu galar yn eu ffordd eu hunain: “Teimla bopeth a chymra dy amser i deimlo popeth - paid â rhuthro galar.”
📲 Mwy ar Cymru Fyw