Posted On: October 27th 2026, 09:44 am
Calan Gaeaf yn Erddig | Calan Gaeaf at Erddig
****
Mae'r Hwch Ddu Gwta wedi ymddangos yn ein gardd, ac rydym angen eich help chi i'w hanfon yn ôl i fyd yr ysbrydion.
O heddiw tan y 1af o Dachwedd, cewch ddilyn dau lwybr i deuluoedd sydd wedi'u hysbrydoli gan chwedlau gwerin Cymru a thraddodiadau rhyfedd Calan Gaeaf. Chwiliwch yn yr ardd am gliwiau, datryswch y cod a datgelu'r gair hud i anfon y creadur direidus adref.
Yna ewch i mewn i'r tŷ, lle mae chwe ystafell wedi'u llenwi â chymeriadau a straeon o chwedlau Cymru, sy'n disgwyl i gael eu darganfod.
Gyda lliwiau'r hydref yn llenwi'r ardd a digon i ddifyrru’r teulu oll ar hyd y ffordd, mae'n gyfnod gwych i ymweld a mwynhau antur hydrefol gyda'ch gilydd.
Mae'r llwybrau Calan Gaeaf am ddim gyda thocyn mynediad arferol ac nid oes angen archebu ymlaen llaw.
Dysgwch fwy a chynlluniwch eich ymweliad gan ddefnyddio'r ddolen yn ein bio.
****
Hwch Ddu Gwta has appeared in our garden, and we need your help to send her back to the spirit world.
From today until 1 November, discover two family trails inspired by Welsh folklore and the mysterious traditions of Calan Gaeaf. Search the garden for clues, crack the code and uncover the magic word needed to send this mischievous creature home.
Then head inside the house, where six rooms are filled with characters and stories from Welsh myths and legends, waiting to be discovered.
With autumn colour across the garden and plenty for families to explore along the way, it’s a great time to visit and enjoy a seasonal adventure together.
Calan Gaeaf trails are free with normal admission and there’s no need to book.
Find out more and plan your visit using the link in our bio.
#NTCymru #Cymru #Wales #CalanGaeaf #Erddig